Annwyl Mick 

Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor a chydnabod ei adborth cadarnhaol ar eglurder y geiriad a’r bwriad sydd o fewn y codau ymarfer (diwygiedig) ar Rannau 4 a 5 a Rhan 6, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) , a osodwyd gerbron y Cynulliad yn ddiweddar.  

Wrth ddatblygu, ar y cyd â rhanddeiliaid, y set gychwynnol o godau o dan y Ddeddf, a ddyroddwyd ym mis Rhagfyr 2015, roedd Gweinidogion yn awyddus i amlygu’r agweddau y byddai’n ofynnol i awdurdodau lleol – wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol – gydymffurfio â hwy, a’r rheini lle y byddai defnyddio disgresiwn lleol yn fwy priodol.  Bydd y dull llwyddiannus hwn yn parhau wrth inni ddiwygio, o bryd i’w gilydd, y codau presennol, yn ogystal â chyflwyno codau newydd.

 

Huw Irranca-Davies AC
Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant.